Cymuned | Y Pump: Sgwrs am Tami
Cip ar gyfres Y Pump
Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat.
Cyfres o bum nofel am bum ffrind gan pum awdur a chyd-awdur ifanc yw Y Pump sy'n dathlu amrywiaeth Cymru heddiw, gan archwilio pynciau fel hil, rhyw ac iechyd meddwl.
Cadwch lygad allan am sgyrsiau ac adolygiadau ar #LyshCymru yn ddyddiol yr wythnos yma. Tami sy'n cael ein sylw ni heddiw.
Mae Tami yn un o griw'r Pump, sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Ond mae ei chyfeillgarwch gyda'i ffrindiau yn cael ei brofi i'r eithaf gan berson newydd sy'n dod i mewn i'w bywyd...
Elain Gwynedd sydd wedi mynd ati i holi'r awduron - Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse.
Oedd dod i adnabod a gweithio gyda’ch gilydd a gweddill yr awduron dros Zoom yn heriol? A pham?
Mared: O’n ni ddim yn gwbod yn wahanol a gweud y gwir! Gan nad oedd neb yn cwrdd lan adeg y cyfnod clo, do’dd dim dewis ‘da ni ond defnyddio Zoom. Ac mewn gwirionedd, dwi’n credu bod Zoom wedi bod yn fendith gan fod yr awduron a’r cyd-awduron wedi’u gwasgaru ar draws Cymru, felly o’dd e’n ddull effeithlon a hwylus iawn i ni. O bosib, byddai cwrdd lan â phawb cyn dechre’r prosiect wedi bod yn braf, ond wnaethon ni lan am hynny pan gododd y cyfyngiadau dros yr haf!
Un peth o’dd yn heriol ar adegau o’dd sicrhau bod y pum nofel yn plethu a bod pawb yn aros yn driw i bersonoliaethau’r cymeriadau eraill wrth sgwennu’r nofelau unigol, ond o’dd pawb yn darllen drafftiau ei gilydd felly o’dd modd gwirio hyn yn hawdd.
Mae pawb yn dod ‘mlaen yn wych, felly o’dd gweithio ar y prosiect yn ddihangfa yn ystod cyfnod digon heriol.
Ceri-Anne: Bysech chi’n meddwl bod y broses bach yn awkward ond i fod yn onest, odd pawb wedi dod at ei gilydd yn reit gloi ac felly erbyn i ni gwrdd mewn person odd e fel ein bod ni di bod yn ffrindiau am flynyddoedd. Yn nhermau gweithio, odd y broses dros Zoom ddim o reidrwydd yn heriol, ond yn rhywbeth odd di cymryd lot o adjustment yn y sesiynau cyntaf achos odd gweithio dros Zoom yn rhywbeth cwbl newydd i mi.
Beth oedd y broses o benderfynu y byddai Tami mewn cadair olwyn? Oedd y diffyg cynrychiolaeth yn llenyddiaeth Gymraeg yn sbardun i chi?
Mared: O’n ni’n gwbod o’r dechrau ein bod ni moyn sgwennu am brofiad person anabl, gan fod cyn lleied o gynrychiolaeth mewn llenyddiaeth yn gyffredinol yn ogystal ag mewn llenyddiaeth Gymraeg. Dyw llenyddiaeth heb amrywiaeth ddim yn rhoi darlun go iawn o gymdeithas. Mae’n bwysig bod pawb yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cynrychioli mewn llenyddiaeth ac ym mhob agwedd ar fywyd, a dwi’n gobeithio bod Tami a gweddill nofelau Y Pump am sbarduno rhagor o nofelau o safbwyntiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn llenyddiaeth. Wnes i ddysgu nifer o bethau wrth ymchwilio i’r nofel ac wrth ei sgwennu, a dwi’n gobeithio bydd darllen y nofel yn ffordd o addysgu hefyd ac yn rhoi mewnwelediad i’r anawsterau sy’n dod wrth fyw ag anabledd a phoen cronig.
Ceri-Anne: Nes i ymuno â’r broses ar ôl i hwn cael ei benderfynu so doeddwn i heb neud y penderfyniad, ond yn sicr roedd y tangynrycholi yn sbardun, yn enwedig am nad yw Tami’n defnyddio ei chadair olwyn 24/7. Dwi’n ddiolchgar bod defnyddiwr ambulatory o gadeiriau olwyn yn cael eu cydnabod achos ma’ ‘na fatha stigma bod pawb sy’n defnyddio cadair olwyn angen y gadair olwyn trwy’r amser ac os maen nhw’n sefyll neu’n cerdded hebddo fe ‘maen nhw’n ffugio!!!’... ond actually ma’ ‘na ganran enfawr o bobl sy’n defnyddio’r gadair olwyn sydd ei hangen rhan-amser neu achosion penodol, fel fi, sy’ ddim yn cael eu cydnabod o fewn llenyddiaeth, yn enwedig llenyddiaeth Gymraeg.
Pa heriau y daethoch ar eu traws wrth fynd ati i ysgrifennu Tami? Pa ymchwil oedd yn angenrheidiol i chi wneud?
Ceri-Anne: Yn nhermau ymchwil, yn amlwg roedd rhaid sicrhau ein bod ni’n cyfleu Elhers-Danlos Syndrome yn gywir so o’n i’n darllen lot o brofiadau pobl gwahanol a’u testimonials nhw i sicrhau bod gen i ddealltwriaeth fwy addas ohono trwy gydol y broses. Er fy mod i’n fenyw ifanc, anabl fel Tami ac yn defnyddio cymhorthion cerdded fel Tami, ma’ bod yn anabl yn rhywbeth gwbl bersonol ac felly o’n i’n reit bendant bod rhaid i mi sicrhau bod cymaint o leisiau perthnasol posib yn cael eu hystyried trwy ein penderfyniadau, nid jyst lleisiau fi a Mared.
I ddweud y gwir, yr her fwya’ though oedd sicrhau bod Tami yn defnyddio geirfa ifanc a chyfoes. Hwn oedd un o’r pethau oedd tîm Y Pump wedi pwysleisio ar ddechrau’r proses sgwennu – ‘Ydy hwn yn rhywbeth bydde person ifanc yn dweud?’. Roedd cadw at y cwestiwn hwn yn bwysig i sicrhau darllenadwyedd ac adloniant y nofelau ac felly roeddwn yn darllen ac ail-ddarllen y nofel wastad er mwyn sicrhau hyn.
Mared: Mae Tami yn byw ag EDS, sef cyflwr sy’n effeithio ar ei symudedd. Fel rhywun sydd heb brofiad uniongyrchol o anabledd, o’n i’n ymwybodol iawn o’r pwysigrwydd i ddarlunio profiad awthentig heb downplayo neu orliwio o gwbwl, felly wnes i gryn dipyn o waith ymchwil ar sut brofiad yw byw ag EDS.
Mae Tami’n byw â phoen cronig difrifol ar adegau yn sgil hyn ac o’dd hi’n heriol ceisio cyfleu’r cyfnodau anodd ‘ma mewn ffordd realistig. Wnes i ganolbwyntio ar ddangos effaith ei chyflwr ar ei bywyd ysgol a’i bywyd cymdeithasol, ac effaith meddyliol hyn arni hefyd. O’n i hefyd yn awyddus i ddangos cyfnodau da Tami yn ogystal â’r drwg ac, er yr heriau mae hi’n eu hwynebu, mae’n dal i allu mwynhau’r cyfnodau di-boen.
Wrth gwrs, o’dd popeth o’n i’n ei sgwennu yn cael ei wirio gan Ceri-Anne, o’dd yn wych. O’dd cyd-awduro gyda Ceri-Anne yn grêt. O’dd hi’n cynghori fi ar yr hyn o’dd yn gweithio a’r hyn nag o’dd yn gweithio cystal o ran darlunio’r anabledd a phoen yn y drafftiau. O’dd hi’n ofod diogel i allu trafod y materion sensitif hyn, felly wnes i ddysgu lot fawr yn y broses.
Faint o’ch hunain sydd yng nghymeriad Tami?
Mared: Mwy ‘na be dwi’n meddwl, mae’n siŵr! Mae mân ddarnau o’r nofel yn dod o brofiadau ac anecdots personol, ond mae’r rhan fwyaf yn ffuglennol wrth gwrs. Dwi’n meddwl bod Tami’n berson relatable iawn, felly dwi’n gobeithio bydd pawb yn gweld tamaid ohonyn nhw’u hunain ynddi.
Er hyn, dwi’n credu mod i a Tami’n bobol weddol wahanol, ond mae rhai elfennau o gymeriad Tami licen i fod wedi eu cael wrth dyfu lan – er enghraifft ei guts hi a pheidio â bod ofn siarad yn blwmp ac yn blaen weithie!
Ceri-Anne: Ma’ lot ohona i yn Tami, ‘da ni’n debyg mewn lot o ffyrdd megis personoliaeth, strwythur teulu, anabledd etc, er oedd lot o hynny’n gyd-ddigwyddiad. Dwi’n credu yn nhermau personoliaeth, ma Tami yn gymeriad credadwy, ma hi’n neud camgymeriadau, ma hi’n gallu bod yn irrational – odd rhaid sicrhau bod pethau odd finnau a Mared yn ystyried fel ‘personality traits negyddol’ (nid yr eirfa cywir ond sai’n gallu meddwl am ddisgrifiad gwell) yn ein hunain, yn ymddangos yn Tami hefyd. Doedd hwn ddim yn drafodaeth concious gaethon ni, ond odd yn rhywbeth daeth yn amlwg wrth i ni weithio ar y drafft cyntaf. So ma’ gan Tami elfennau da a ‘drwg’ o’n personoliethau ni, dwi’n meddwl.
Pa mor bwysig oedd dylanwadau’r cyfryngau cymdeithasol wrth greu byd Y PUMP a byd Tami? Yn enwedig wrth i Tami gyfarfod Sam dros y cyfryngau.
Ceri-Anne: Odd hwn yn sgwrs enfawr rhwng pawb ar y prosiect ar ei ddechrau – Ma’ stori Tami yn dibynnu lot ar Twitter, Whatsapp, ac ati a dwi’n falch o hyn oherwydd mae cyfryngau cymdeithasol yn rhan HIWJ o fywydau pobl ifanc o ddydd-i-ddydd. Mae’r gallu i gysylltu ‘da rhywun ‘da chi ddim yn gorfforol yn agos iddyn nhw nawr yn norm ac felly odd rhaid i ni weithredu ar hwn fel y norm yn nofelau Y Pump hefyd achos os o’n i ddim, doedd y gyfres ddim yn gallu bod yn gyfres am ffrindiau Blwyddyn 11 cywir a chredadwy. Hefyd yn achos Tami, ma’ hi’n treulio lot o amser ar ei phen ei hun, so logistically odd rhaid neud yn siŵr bod gweddill Y Pump yn dal yn bresennol yn ei stori hi er bod nhw’n gorfforol ddim ar adegau.
Mared: Pwysig iawn. Maen nhw’n effeithio ar fywyd pawb, wedi’r cyfan, felly byddai wedi bod yn rhyfedd peidio eu cynnwys nhw. Gan fod Tami’n treulio llawer o amser yn ei stafell ar ei phen ei hunan, mae Tami’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel y peth gorau nesaf at fywyd cymdeithasol pan mae’n teimlo’n unig.
Dwi’n credu bod thema ganolog yn y nofel lle nag yw popeth cweit fel y mae’n ymddangos i’r llygad, ac mae’r cyfryngau cymdeithasol a pherthynas Tami â Sam yn ganolog i hyn. Mae effaith y cyfryngau cymdeithasol ar Tami, yn ogystal â’r teimlad o unigrwydd maen nhw’n ei greu ynddi, hefyd yn rheswm pam mae’n pellhau oddi wrth weddill Y Pump. Felly, heb y cyfryngau cymdeithasol, byddai nofel Tami yn hollol wahanol.
Beth yw eich hoff beth am y nofel?
Mared: Dwi’n hoffi bod y nofel mor bersonol! Dwi’n teimlo ein bod ni’n mynd reit i mewn i ben Tami, ac yn clywed ei holl deimladau. Dwi hefyd yn hoffi twf Tami drwy gydol y nofel. Mae fel petai’n dod i ddysgu i dderbyn ac i garu ei hunain heb fod angen iddi newid. Mae’n daith bersonol iddi mewn gwirionedd.
Ceri-Anne: Ahhhh, ydw i’n gallu dweud popeth? Yn benodol, dwi’n meddwl hiwmor y nofel, ma’n cymryd lot i lyfr actually neud i mi chwerthin, ond dwi’n chwerthin loads wrth ddarllen nofel Tami (hyd yn oed nawr am like, y chweched tro).
Beth ydych chi’n gobeithio fydd pobl ifanc yn ei ddysgu a’i ddeall am anableddau o stori Tami?
Ceri-Anne: Dwi’n gobeithio bod pobl ifanc yn deall y ffaith nad yw anableddau yn undonnog a ddim yn one-size-fits-all. Ma’ nhw’n gallu newid er enghraifft flaro fyny a lawr loads, ond yn fwy pwysig, maen nhw hefyd yn achosi rhwystrau corfforol a meddyliol mae pobl abl yn gallu cymryd yn ganiataol a ddim o reidrwydd yn mynd i brofi. Yn ogystal, dyw pobl anabl ddim yn bobl anabl yn unig – a bod rhaid deall ma’n angenrheidiol creu cydbwysedd o adnabod pobl anabl fel pobl go-iawn gyda phersonoliaeth, meddyliau, a phroblemau hollol unrelated i’n hanableddau, tra’n hefyd cydnabod y rhwystrau ma pobl anabl yn delio gyda nhw.
Mared: Dwi’n gobeithio bydd darllenwyr yn cael darlun realistig o sut brofiad yw bod yn berson anabl yn yr ysgol. Dwi’n gobeithio y byddan nhw’n dysgu mwy am anableddau cudd, effaith y cyfan ar iechyd meddwl yn ogystal â’r ffaith nad yw bywyd ysgol yn siwtio pawb, i enwi ond rhai pethau!
Dwi’n gobeithio bydd y rhai hynny sy’n uniaethu â Tami mewn unrhyw ffordd yn teimlo’n llai unig drwy ddarllen y nofel, ac yn gwybod ei bod hi’n iawn i fod yn chi ac i beidio â chuddio pwy ydych chi.
Tami gan Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse
Rhan o gyfres Y Pump, gwasg Y Lolfa
£5.99